Cafodd paentiad hwn ei ysbrydoli gan Merched Cymru dros Heddwch, merched o bob cwr o Gymru sydd wedi bod yn dod at ei gilydd, wythnos ar ôl wythnos, i sefyll dros heddwch yn Gaza.
Mae llawer o’r merched hyn , ffrindiau annwyl , wedi fy ysbrydoli gyda’u tosturi di-dor, yn codi arian, yn cerdded ac yn cynnal digwyddiadau i sicrhau nad yw’r rhai mwyaf anghenus yn cael eu hanghofio.
Mae’r gwaith yn adlewyrchu gwydnwch tawel merched sy’n gweithio ochr yn ochr fel cymheiriaid , cryfder sy’n deillio o ofal ac o ddewrder, cryfder sy’n para y tu hwnt i wleidyddiaeth ac sy’n goroesi ymerodraethau.
Mae’r rhuban coch sy’n rhedeg drwy’r gwaith yn cynrychioli’r linell goch dros Gaza , edefyn o gysylltiad, cydwybod ac undod rhwng cenedlaethau a thiroedd.
Wedi’i lofnodi a’i ddyddio gan yr artist. Maint Delwedd: 32 x 38. I’w ddanfon ar gyfer y Nadolig, archebwch erbyn 19 Rhagfyr. Bydd printiau’n cyrraedd wedi’u pecynnu mewn tiwb postio.
*Mae’r printiau hyn yn cael eu gwerthu i godi arian ar gyfer ‘Apêl Argyfwng Plant yn Gaza’ UNICEF UK*