Amdani
Artist yw Meinir Mathias sy’n gweithio’n bennaf gyda phaent olew a thechnegau gwneud printiau intaglio. Wedi astudio BA ac MA mewn Celfyddyd Gain, aeth ymlaen i weithio fel darlithydd yn yr Ysgol Gelf Caerfyrddin am rai blynyddoedd. Mae hi bellach yn gweithio fel artist llawn amser ac mae ganddi stiwdio yng Ngheredigion, Gorllewin Cymru. Mae ei gwaith wedi'i wreiddio yn niwylliant Cymru ond eto'n cysylltu â phrofiad personol a chof. Mae ei gwaith yn aml yn tynnu ar ddigwyddiadau hanesyddol a delweddaeth werinol ac maent yn herio’r berthynas ddynol gymhleth â thir a’i hanes. Ail-ddychmygir cymeriadau ffyrnig o wrthryfelgar ac annibynnol wrth iddynt gyfeirio at rai dylanwadau diwylliannol.
Yn dilyn sawl sioe lwyddiannus ers yr arddqangosfa unigol ‘Rebel’ yn 2020, mae ei waith wedi’i arddangos mewn nifer o Orielau amlwg gan gynnwys arddangosfa Cymru Gyfoes yn Oriel y Glannau, Galeri Ffiny parc, Oriel Myrddin, Galeri Canfas Aberteifi, RCA Conwy, Oriel Mimosa Llandeilo ac Oriel Plas Glyn y Weddw. Mae’n parhau i ddatblygu ei gwaith wrth baratoi ar gyfer ei sioe unigol nesaf yn 2024.
Mae llawer o’i phaentiadau wedi’u harchebu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ar gyfer y Casgliad Cenedlaethol a dyfarnwyd gwobr Dewis y Bobl iddi yn Academi Frenhinol Cambrian y Celfyddydau Cain. Cafodd Meinir Mathias sylw ar y gyfres o ‘Cymry ar Gynfas / Wales on Canvas’ a ddarlledwyd ar sianel S4C wrth iddi gael ei chomisiynu i beintio portread o’r naturiaethwr a chyflwynydd , Iolo Williams.
Wnaeth cwblhau prosiect gyda'r bardd Menna Elfyn i ail-ddehongli casgliad o gerddi a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Dadorchuddiwyd murlun cyhoeddus mawr gan yr artist yn ddiweddar ac mae hi nawr yn cychwyn ar ei chorff mwyaf o weithiau hyd yma ar gyfer arddangosfa a fydd yn teithio tramor. Ceir manylion am arddangosfeydd a digwyddiadau'r dyfodol ar y dudalen Newyddion.
‘Delweddau aml-haenog yw ei phaentiadau gan dynnu cyfeiriad at galon tir a hanes Cymru.’ ‘Mae symbolaeth, delweddau o'r cartref a thirwedd yn ymddangos mewn llawer o’r gweithiau naratif a ffigurol. Mae'r gwaith yn adlewyrchu cymhlethdod o hunaniaeth Gymraeg. Mae ei phaentiadau yn aml yn chwarae gyda'r syniad o arwriaeth. Ail-ddychmygir y cymeriadau a ddarlunnir fel y buont trwy straeon a chof diwylliannol. Mae ei waith yn boblogaidd iawn gyda chasglwyr Celf Cymraeg'. Western Mail, 2021